Annwyl Edwina
27 Hydref 2015
Cais am wybodaeth i lywio gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft 2016-17
Diolch i chi am gytuno i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Ionawr am 2.00pm, i drafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Cyn y cyfarfod hoffem gael y llinellau gwariant unigol yn y gyllideb ar gyfer eich portffolio sy’n berthnasol i’n Pwyllgor.
Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu
O ran yr ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sydd o fewn eich portffolio chi, ac sy’n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth mewn cysylltiad â’r canlynol:
Polisïau allweddol
Yn dilyn ei waith craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, hoffai’r Pwyllgor gael gwybodaeth am y polisïau a’r materion canlynol yn benodol:
Trafnidiaeth
· Sut y mae’r gyllideb yn cefnogi’r modd y caiff cynlluniau trafnidiaeth lleol eu cyflawni;
· Manylion ar unrhyw ddarpariaeth a wnaed yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gwaith ar yr M4 o amgylch Casnewydd;
· Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o Asiantau Cefnffyrdd ac ymdrechion ehangach i wella gwerth am arian o ran gwelliannau i draffyrdd a chefnffyrdd a’u cynnal a’u cadw, yng ngoleuni adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn 2015.
· Sut mae’r gyllideb ddrafft yn darparu ar gyfer gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013;
· Eich dull o sicrhau bod trafnidiaeth yng Nghymru yn elwa ar y cyfleoedd a ddarperir yn sgîl buddsoddiadau preifat, ffynonellau ariannu arloesol a chyllid yr UE, yn enwedig y Cyfleuster Cysylltu Ewrop, yn ystod cyfnod y gyllideb ddrafft;
· Sut mae’r gyllideb ddrafft yn darparu ar gyfer:
- buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau rheilffordd, gan gynnwys Trydaneiddio Llinellau’r Cymoedd;
- buddsoddi yn y Metro (ar wahân i Drydaneiddio Llinellau’r Cymoedd);
- buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer Cynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan a mytravelpass.
Economi a Gwyddoniaeth
· Cynllun Allwedd Band Eang Cymru
· Cynllun Cyflymu Cymru
· Dinas-ranbarthau
· Ardaloedd Menter, Parthau Twf Lleol, ac Ardaloedd Gwella Busnes
· Cronfa Twf Economaidd Cymru
· Ardrethi Busnes
· Cefnogaeth i allforio
· Cefnogaeth i fewnfuddsoddi
· Cefnogaeth i fentrau cymdeithasol
· Partneriaeth ar gyfer Twf - Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru
· Pob un o’r sectorau blaenoriaeth sy’n weddill
· Gwyddoniaeth i Gymru, a’r rhaglen Sêr Cymru
· Argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd.
· Banc Datblygu i Gymru
Ar gyfer pob un o’r polisïau uchod, fel y bo’n briodol, hoffai’r Pwyllgor weld:
· Manylion am gostau a / neu unrhyw waith a wnaed i asesu’r gost o roi’r polisïau hyn ar waith yn ystod cyfnod y gyllideb ddrafft (2016-17);
· Gwybodaeth yn ymwneud â sut y caiff y dulliau o weithredu’r polisi, a’r canlyniadau cysylltiedig, eu monitro a’u gwerthuso i ddangos gwerth am arian.
Rydym hefyd yn awyddus i weld sut y mae cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth i’r Gymraeg wedi dylanwadu ar ddyraniadau’r gyllideb.
Gwariant ataliol
Mae gennym ddiddordeb, fel yr oedd gennym y llynedd, mewn ystyried gwariant ataliol fel rhan o’n gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft. Y diffiniad o wariant ataliol yr ydym yn ei fabwysiadu at y diben hwn yw:
...gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau ac sy’n lleddfu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau a gwerth am arian.
Gan gofio’r diffiniad hwnnw, hoffai’r Pwyllgor gael gwybodaeth am:
· Y gyfran o’r gyllideb Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a ddyrennir ar gyfer camau gwariant ataliol;
· Manylion y polisïau neu raglenni penodol yn eich portffolio sy’n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn y bwriedir iddynt fod yn ataliol, a sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu trawsnewid yn ymarferol, i sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol; a
· Sut y caiff gwerth am arian rhaglenni o’r fath ei werthuso, gan ganolbwyntio’n arbennig ar beth yw’r mewnbynnau penodol a’r canlyniadau a fwriedir.
Darparu ar gyfer deddfwriaeth
Byddem hefyd yn hoffi gweld:
· Gwybodaeth am y graddau y mae unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig sydd wedi’i phasio, sydd wrthi’n cael ei phasio, neu y mae wedi’i chynllunio yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn debygol o gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar eich portffolio ym mlwyddyn ariannol 2016-17.
· Gwybodaeth am effaith Bil Cymru drafft ac unrhyw ddeddfwriaeth arall yn y DU sy’n cael effaith ar eich maes portffolio ar y gyllideb.
Byddem yn ddiolchgar o gael y wybodaeth uchod erbyn 17 Rhagfyr 2015.
Gyda llawer o ddiolch am ein cynorthwyo gyda’n gwaith craffu.
Yn gywir
William Graham AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes